Adolygiad o’r deisebau sy'n cael eu hystyried ar ddiwedd y Pumed Senedd

Dyddiad:              11 Mawrth 2021

Diben

1.   Mae'r papur hwn yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu'r deisebau y mae'n eu hystyried ar hyn o bryd a chytuno ar ba rai y dylid eu cyflwyno i'r Chweched Senedd i'w hystyried ymhellach a pha rai y dylid eu cau.

Cefndir

2.   Gan ragweld diwedd y Senedd bresennol, gofynnodd y Pwyllgor i'r ysgrifenyddiaeth nodi pa ddeisebau y gellid eu cyflwyno i’r Senedd nesaf i'w hystyried gan ei bwyllgor olynol, a pha ddeisebau y gallai'r Pwyllgor hwn ystyried eu cau. Cynhaliwyd ymarfer tebyg ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad.

 

3.   Mae 127 o ddeisebau'n cael eu hystyried gan y Pwyllgor ar hyn o bryd (h.y. rhai sydd wedi'u trafod ar o leiaf un achlysur ac nad ydynt wedi'u cau). Wrth benderfynu faint o ddeisebau i'w cyflwyno i’r Senedd nesaf, dylai'r Pwyllgor nodi hefyd bod 77 o ddeisebau’n casglu llofnodion ar hyn o bryd. Bydd y rhain hefyd yn cael eu cyfeirio i'w hystyried yn y Chweched Senedd os byddant yn casglu digon o lofnodion.

 

4.   Mae'r ysgrifenyddiaeth wedi paratoi dau dabl i'r Pwyllgor eu hystyried. Mae'r tabl yn Atodiad A yn rhoi trosolwg o'r deisebau y gallai'r Pwyllgor fod eisiau ystyried eu cyfeirio at y pwyllgor a fydd yn gyfrifol am ddeisebau yn y Chweched Senedd. Mae'r tabl yn Atodiad B yn cynnwys y deisebau y gallai'r Pwyllgor ystyried eu cau. Nid yw’r deisebau y trefnwyd i'w trafod yn ystod cyfarfod y Pwyllgor ar 16 Mawrth 2021 wedi'u cynnwys yn y tablau hyn.

Cam i’w gymryd: 

5.   Gwahoddir y Pwyllgor i ystyried y cynigion isod.


Atodiad A:Deisebau y gallai’r Pwyllgor fod eisiau eu cyflwyno i'w hystyried yn y Chweched Senedd

Teitl y ddeiseb

Llofnodion

Cyfarfod cyntaf

Y nifer o weithiau y cawsant eu hystyried

Y sefyllfa bresennol

P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol

227

Ionawr 2019

Saith achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'w bwyllgor olynol ystyried y ddeiseb ar ôl cyhoeddi’r gwerthusiad o brosiect peilot y Lighthouse Project yn Llundain yn 2021.

P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl

5,682

Tachwedd 2019

Dau achlysur

Gohiriwyd dadl a drefnwyd ar gyfer mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig y Coronafeirws. Mae’r deisebydd wedi gofyn a gaiff y ddeiseb ei phasio i’r Chweched Senedd i gael ei hystyried.

P-05-914 Mynediad cyfartal i ofal iechyd ar gyfer yr anabl

121

Tachwedd 2019

Pedwar achlysur

Mae'r Pwyllgor yn aros am ymateb i gynigion y mae wedi'u gwneud i Lywodraeth Cymru.

P-05-924 Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru

297

Ionawr 2020

Dau achlysur

Ni fu'n bosibl i’r Pwyllgor gymryd tystiolaeth bellach gan y deisebwyr (disgyblion ysgol) oherywdd effaith y pandemig.

P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)

2,008

Chwefror 2020

Tri achlysur

Mae’r Pwyllgor yn cadw golwg ar y sefyllfa yn sgil adolygiad annibynnol, a gomisiynwyd gan Defra a'r Llywodraethau datganoledig, a ddisgwylir yng ngwanwyn 2021.

P-05-954 Deiseb yn galw am ymchwiliad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru i gam-drin plant hanesyddol ar Ynys Byr

5,088

Gorffennaf 2020

Dau achlysur

Cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer o opsiynau ar gael iddo ac i gadw golwg ar y sefyllfa. Mae'r deisebwyr wedi gofyn am i'r ddeiseb gael ei chyflwyno i'w hystyried yn y Chweched Senedd.

P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â’r hyn a geir yng ngweddill y DU.

561

Medi 2020

Dau achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio'r ddeiseb i'w hystyried yn y Chweched Senedd.

P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig

5,348

Medi 2020

Pedwar achlysur

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mawrth. Mae’r Pwyllgor yn aros am ymateb i ohebiaeth bellach a anfonwyd at Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

 

(Deiseb wedi'i grwpio gyda P-05-1018)

P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol

11,392

Medi 2020

Pump achlysur

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mawrth. Mae’r Pwyllgor yn aros am ymateb i ohebiaeth bellach a anfonwyd at Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

 

(Deiseb wedi'i grwpio gyda P-05-1001)

P-05-1035 Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth.

7,326

Tachwedd 2020

Dau achlysur

Mae'r Pwyllgor yn aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Llywodraeth yn dilyn dadl a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ar y pwnc.

P-05-1040 Cyflwyno moratoriwm ar gymeradwyo unrhyw losgyddion gwastraff newydd ar raddfa fawr yng Nghymru.

938

Tachwedd 2020

Dau achlysur

Ysgrifennodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru.

P-05-1041 Polisi a chyllid clir ar gyfer ysbytai a chartrefi gofal ar gyfer ymweliadau rhithwir yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud

187

Rhagfyr 2020

Un achlysur

Ysgrifennodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb gan Fforwm Gofal Cymru.  Mae’r rheolau’n dechrau cael eu llacio mewn perthynas â chartrefi gofal ar hyn o bryd.

P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

1,462

Rhagfyr 2020

Dau achlysur

Ysgrifennodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru.

P-05-1046 Ailystyried y cyfnod clo ac ymchwilio i dystiolaeth wyddonol

nad yw'n gweithio a’i fod yn achosi mwy o niwed

2,189

Rhagfyr 2020

Un achlysur

Mae’r Pwyllgor yn aros am ymateb i'r ddeiseb gan Lywodraeth Cymru.

P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru

5,386

Rhagfyr 2020

Dau achlysur

Mae dadl wedi’i threfnu ar y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer 17 Mawrth.

P-05-1062 Rhoi'r gorau i'r prawf rt-PCR i brofi ar gyfer COVID-19, gan nad yw'n addas i'r diben

96

Rhagfyr 2020

Un achlysur

Mae’r Pwyllgor yn aros am ymateb i'r ddeiseb gan Lywodraeth Cymru.

P-05-1068 Caniatáu cyfarfodydd ymbellhau cymdeithasol mewn gerddi preifat i ddilyn y wyddoniaeth ac osgoi teimlo’n ynysig

273

Ionawr 2021

Dau achlysur

Ysgrifennodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb pellach gan y Llywodraeth.

P-05-1069 Arbed y tir fferm a'r caeau gwyrdd yn Cosmeston

5,272

Rhagfyr 2020

Dau achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i gadw golwg ar gamau nesaf y broses gynllunio a gofyn i'w bwyllgor olynol adolygu'r ddeiseb yn y Chweched Senedd.

P-05-1071 Dylid argraffu rhif cofrestru cerbydau ar becynnau bwyd brys a werthir drwy ffenest y car

8,341

Rhagfyr 2020

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau gan y deisebydd. Ni chafwyd dim.

Cyhoeddwyd strategaeth 'Mwy nag Ailgylchu' a chynllun atal sbwriel yn ddiweddar.

P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy’n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd

103

Rhagfyr 2020

Un achlysur

Ysgrifennodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb gan Amgueddfa Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

 

(Deiseb wedi'i grwpio gyda P-05-1086)

P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid!

5,159

Ionawr 2021

Un achlysur

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y ddeiseb ar 10 Mawrth.

Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon hefyd wedi gwneud gwaith yn y maes hwn.

P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

490

Ionawr 2021

Un achlysur

Ysgrifennodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb gan Amgueddfa Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

 

(Deiseb wedi'i grwpio gyda P-05-1073)

P-05-1092 Peidiwch a gohirio etholiadau mis Mai 2021

470

Chwefror 2021

Un achlysur

Mae’r Pwyllgor yn aros am ymateb pellach gan y Llywodraeth.

P-05-1094 Rhoi terfyn ar ddirywiad treftadaeth Pontypridd - achubwch y Bont Wen

304

Chwefror 2021

Un achlysur

Mae'r Pwyllgor wedi gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

655

Chwefror 2021

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno’r ddeiseb i'w hystyried ymhellach yn y Chweched Senedd gan y bydd gwaith ymchwil sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn.

P-05-1129 Mae angen cymhwyso mesurau deddfwriaethol nawr i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith i ddiddymu Lesddaliad

425

Mawrth 2021

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'w olynydd ystyried y ddeiseb.

P-05-1130 Dylai Llywodraeth Cymru ail-brynu ac adnewyddu Coleg Harlech

6,666

Mawrth 2021

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'w olynydd ystyried y ddeiseb.

P-05-1132 Cychwyn Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

126

Mawrth 2021

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau gan y deisebydd.

P-05-1135 Cyllid wedi'i dargedu ar gyfer canolfannau addysg awyr agored preswyl, sydd bellach yn methu â gweithredu am 12 mis.

1,181

Mawrth 2021

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'w olynydd ystyried y ddeiseb.

 


 

Atodiad B:Deisebau y gallai’r Pwyllgor fod eisiau eu cau ar ddiwedd y Senedd hon

Teitl y ddeiseb

Llofnodion

Cyfarfod cyntaf

Y nifer o weithiau y cawsant eu hystyried

Y sefyllfa bresennol

P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

631

Hydref 2017

13 achlysur

Bu oedi gyda’r gwaith o gwblhau ailasesiadau derbynwyr blaenorol y Gronfa Byw’n Annibynnol yn sgil y pandemig. Yn flaenorol, cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ac roedd y deisebydd yn fodlon ar y cyfan â phenderfyniad y Llywodraeth i adolygu derbynwyr yn unigol. 

P-05-774 Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru)

1,755

Hydref 2017

Tri achlysur

Gofynnodd y Pwyllgor am gyfarfod rhwng y deisebwyr a'r Llywodraeth. Ni chafwyd diweddariadau pellach.

P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

652

Tachwedd 2017

Deg achlysur

Yn aros am ganlyniadau gwaith gan Gymwysterau Cymru. Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ar gynigion ar gyfer pynciau tan 9 Ebrill 2021, gyda chymwysterau i'w cynllunio erbyn 2024.

P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad – dylid adolygu TAN 1

706

Tachwedd 2017

Wyth achlysur

Mae'r Pwyllgor wedi bod yn aros am ddiweddariad gan y Llywodraeth ar y camau sydd i'w cymryd yn dilyn ymgynghoriad ar ddiwygiadau i adran dai Polisi Cynllunio Cymru. Mae’r Llywodraeth bellach wedi dirymu Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 1

 

(Deiseb wedi'i grwpio gyda P-05-881)

P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol

138

Chwefror 2018

Naw achlysur

 

Mae'r Pwyllgor wedi codi nifer o faterion yn ymwneud â'r ddeiseb gyda Llywodraeth Cymru, ond heb wneud llawer o gynnydd. Mae'r Llywodraeth wedi mynnu bod gwasanaethau cenedlaethol i ddynion ar gael drwy Gynllun Dyn a Byw Heb Ofn.

P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!

102

Mawrth 2018

Saith achlysur

Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at ddatblygu cynigion ar gyfer treth pecynnu plastig ledled y DU, ac yn ystyried y posibilrwydd o dreth neu dâl gwpanau plastig defnydd untro

. Mae’r pwyllgor yn aros am ddiweddariad pellach.

P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

1,425

Mai 2018

11 achlysur

Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad ar y ddeiseb yn ystod mis Mawrth 2021.

P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd.

3,040

Ebrill 2018

Chwech achlysur

Mae’r Pwyllgor yn aros am y wybodaeth ddiweddaraf am gynigion i'r Llywodraeth ddatblygu prosiect peilot mewn partneriaeth ag Anabledd Cymru a'r deisebwyr. Mae'n debyg bod y pandemig wedi effeithio ar y gwaith hwn.

P-05-814 Pob adeilad newydd yng Nghymru i gael paneli solar

72

Mai 2018

Dau achlysur

Mae'r Pwyllgor yn aros am ganlyniad adolygiad y Llywodraeth o Ran L o’r rheoliadau adeiladu.

P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

159

Medi 2018

Saith achlysur

Yn aros am ganlyniad cyfarfodydd a drefnwyd rhwng y Llywodraeth, Haemoffilia Cymru a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Waed. Mae'r Llywodraeth wedi cyfeirio at waith i adolygu manteision y cynllun yng Nghymru.

P-05-832 Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf

241

Medi 2018

Pump achlysur

Mae’r pwyllgor yn aros am ymgynghoriad ar newidiadau yn y cod derbyn i ysgolion, nad yw wedi’i gyhoeddi. Mae’n bosibl bod y pandemig wedi achosi oedi.

P-05-846 Achub Ysbyty Tywysog Philip Llanelli

12,745

Tachwedd 2018

Chwech achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i gadw golwg ar y sefyllfa o ystyried nad oedd newidiadau yn cael eu cynnig i Ysbyty'r Tywysog Philip. Ni chodwyd unrhyw gynigion pellach.

P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

6,345

Rhagfyr 2018

Chwech achlysur

Mae’r pwyllgor yn cadw golwg ar weithredu cynllun sganio mpMRI yng Nghymru, yn dilyn cyngor newydd gan NICE.

P-05-853 Na i gau Cyffordd 41 o gwbl

473

Ionawr 2019

Tri achlysur

Mae’r Pwyllgor yn cadw golwg ar ganlyniadau monitro a chynigion pellach gan y Llywodraeth. Mae’n bosibl bod y pandemig wedi achosi oedi.

P-05-863 Galwn ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel

141

Chwefror 2019

Pedwar achlysur

Mae'r Pwyllgor yn aros am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd gan y Llywodraeth. Ers hynny mae'r deisebydd wedi nodi ei fod yn fodlon â'r sefyllfa.

P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi

6,148

Mai 2019

Pump achlysur

Mae’r pwyllgor yn cadw golwg ar y sefyllfa yn sgil gwaith sy'n cael ei wneud gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Cyflawnwyd y camau sylweddol y gofynnwyd amdanynt drwy ddeiseb (datgan argyfwng hinsawdd).

P-05-870 Gadewch i ni Sicrhau y Caiff Calon Pob Person Ifanc (10-35 oed) ei Sgrinio

3,444

Ebrill 2019

Pedwar achlysur

Yn sgil penderfyniad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU i beidio ag argymell sgrinio’r boblogaeth yn systematig ar gyfer cyflyrau cardiaidd, gofynnodd y Pwyllgor am farn elusennau eraill ond ni chafwyd dim.

P-05-881 Trwsio ein system gynllunio

250

Mehefin 2019

Tri achlysur

Mae'r Pwyllgor wedi bod yn aros am y wybodaeth ddiweddaraf am y camau sydd i'w cymryd gan y Llywodraeth yn dilyn ymgynghoriad ar ddiwygiadau i adran dai Polisi Cynllunio Cymru. Mae’r Llywodraeth bellach wedi dirymu Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 1.

 

(Deiseb wedi'i grwpio gyda P-05-786)

P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

1,409

Mehefin 2019

Naw achlysur

Bydd y ddeiseb yn cael ei chau ar ôl i ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad a gyhoeddodd ar 2 Mawrth gael ei dderbyn.

P-05-889 Labelu Cig o anifeiliaid sydd wedi’u lladd mewn modd crefyddol

348

Gorffennaf 2019

Un achlysur

Mae’r pwyllgor yn aros am ddatblygiadau pellach yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE. Mae’r gwaith ar Farchnad Fewnol y DU yn parhau ac felly nid yw'n eglur a fydd Llywodraeth Cymru yn ennill cymhwysedd yn y maes hwn.

P-05-901 Gwahardd Gwerthu Ffwr Anifeiliaid yng Nghymru

3,098

Hydref 2019

Dau achlysur

Mae’r pwyllgor yn aros am ddatblygiadau pellach yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE. Mae’r gwaith ar Farchnad Fewnol y DU yn parhau ac felly nid yw'n eglur a fydd Llywodraeth Cymru yn ennill cymhwysedd yn y maes hwn.

P-05-904 Gwahardd y defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau a sioeau teithiol yng Nghymru

1,649

Tachwedd 2019

Un achlysur

Daeth Deddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) 2020 yn gyfraith yng Nghymru ar 7 Medi 2020 yn dilyn deiseb flaenorol. Ymddengys nad oes camau pellach i’w cymryd ar y mater hwn yn fuan. Rhoddwyd cyfle i’r deisebwyr roi sylwadau yn hydref 2020.

P-05-919 Peidiwch â chyflwyno’r syniad i drwyddedu cŵn sioe, cathod sioe a cheffylau a ddangosir

4,241

Rhagfyr 2019

Un achlysur

Mae’r Pwyllgor yn aros am benderfyniadau Llywodraeth Cymru ynghylch cynllun trwyddedu arddangosfeydd anifeiliaid ar ôl ymgynghori, yn dilyn arwydd gan y Gweinidog na fyddai'r gweithgaredd y cyfeirir ato yn y ddeiseb yn cael ei gynnwys. Mae’n bosibl bod y pandemig wedi effeithio ar y gwaith.

P-05-927 Cyfleusterau toiled Changing Places

1,273

Ionawr 2020

Dau achlysur

Mae’r pwyllgor yn aros am ymgynghoriad ar newidiadau yn y Rheoliadau Adeiladu i wneud darpariaeth cyfleusterau toiled Changing Places yn ddisgwyliedig mewn rhai adeiladau newydd. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ym mis Chwefror 2021 tan Ebrill 2021.

P-05-936 Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74 oed

69

Chwefror 2020

Tri achlysur

Nid yw cyngor presennol Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UKNSC) yn cynnwys sgrinio’r boblogaeth ar ôl 74. Blaenoriaeth y Llywodraeth yw ehangu’r sgrinio i bobl rhwng 50 a 59 yn unol ag argymhelliad UKNSC.

P-05-940 Gostwng nifer y llawdriniaethau a gaiff eu canslo

100

Mawrth 2020

Dau achlysur

Mae’r Pwyllgor yn aros am ddata gan y Llywodraeth. Ers cyflwyno’r ddeiseb, mae'r sefyllfa wedi newid oherwydd y pandemig.

P-05-944 Gwrthdroi’r toriadau i wasanaethau trenau cymudwyr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

953

Mawrth 2020

Dau achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i gadw golwg ar y sefyllfa er mwyn ailedrych ar y ddeiseb o bosibl os bydd gwasanaethau rheilffyrdd yn dychwelyd i amserlenni safonol yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n aneglur pryd y bydd hyn yn digwydd oherwydd y pandemig.

P-05-965 Annog y Llywodraeth i gyflwyno ward ar wahân, heblaw’r ward famolaeth, ar gyfer teuluoedd sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad.

52

Gorffennaf 2020

Tri achlysur

Rhoddodd y Pwyllgor grynodeb o'r dystiolaeth a gasglwyd gan fyrddau iechyd i'r Llywodraeth.

P-05-975 Ailystyriwch y codiad i’r dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi tra'i bod yn anghyfreithlon i deithio i ail gartrefi.

68

Gorffennaf 2020

Un achlysur

Mae'r Pwyllgor wedi bod yn aros am ymateb gan Gyngor Sir Penfro. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol unigol yw materion.

P-05-977 Ailagor gwasanaethau deintyddol cyffredinol llawn yng Nghymru fel sydd wedi digwydd yn Lloegr

7,583

Gorffennaf 2020

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i gadw golwg ar y sefyllfa ac aros am ddiweddariad pellach gan y deisebydd. Ni chafwyd dim.

P-05-980 Ymestyn grantiau ar unwaith i fusnesau bach yng Nghymru nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach

130

Gorffennaf 2020

Un achlysur

Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth am faint y disgresiwn sydd ar gael i awdurdodau lleol o ran darparu cyllid i fusnesau y tu allan i Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach. Cadarnhawyd bod disgresiwn yn bodoli mewn perthynas â deisebau eraill.

P-05-1027 Caniatáu clybiau pêl-droed domestig Cymru i chwarae gemau cyfeillgar, a chaniatáu cefnogwyr i fynd i’r gemau

2,045

Hydref 2020

Dau achlysur

Mae’r pwyllgor yn cadw golwg ar y sefyllfa oherwydd newid yn y rheolau presennol ledled y DU o ganlyniad i adfywiad y pandemig. Newidiodd yr amgylchiadau oherwydd symud i Rybudd Lefel 4.

 

(Deiseb wedi'i grwpio gyda P-05-1101)

P-05-1028 Llaciwch y cyfyngiadau gormodol i ganiatáu i ralïau chwaraeon modur gael eu cynnal yng Nghymru.

3,889

Hydref 2020

Dau achlysur

Mae’r pwyllgor yn cadw golwg ar y sefyllfa oherwydd newid yn y rheolau presennol ledled y DU o ganlyniad i adfywiad y pandemig. Newidiodd yr amgylchiadau oherwydd symud i Rybudd Lefel 4.

P-05-1037 Caniatáu i blant fynd i mewn i ardaloedd dan gyfyngiadau symud i barhau i hyfforddi gyda'u clybiau chwaraeon

9,867

Tachwedd 2020

Dau achlysur

Mae’r pwyllgor yn cadw golwg ar y sefyllfa oherwydd newid yn y rheolau ledled y DU o ganlyniad i adfywiad y pandemig. Newidiodd y sefyllfa ers cyflwyno’r ddeiseb oherwydd i Lywodraeth Cymru osod rheolau cenedlaethol.

 

P-05-1050 Ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gynnal pleidlais i gymeradwyo cyfyngiadau lleol cyn eu gweithredu

127

Ionawr 2021

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau gan y deisebydd. Ni chafwyd dim

P-05-1053 Cadwch gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau,

os cyflwynir cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor

20,616

Rhagfyr 2020

Dau achlysur

Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn fel rhan o ddadl ar fynediad at chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn ystod cyfyngiadau symud.

 

Mae deisebau eraill ynghylch ailagor campfeydd yn cael eu hystyried ar 16 Mawrth.

P-05-1054 Mae’r sector gwallt a harddwch wedi profi ei fod yn ddiogel o ran COVID-19. Peidiwch â’n cau a pheryglu swyddi yng Nghymru unwaith yn rhagor.

6,074

Rhagfyr 2020

Un achlysur

Mae’r pwyllgor yn cadw golwg ar y sefyllfa oherwydd newid yn y rheolau presennol ledled y DU o ganlyniad i adfywiad y pandemig ac i aros am sylwadau gan y deisebydd. Ni chafwyd dim.

P-05-1057 Cynyddu nifer y bobl sy’n cael mynd i dderbyniadau priodas.

984

Rhagfyr 2020

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau gan y deisebydd. Ni chafwyd dim.

 

Mae deiseb arall ynghylch pryd y gall priodasau ailddechrau yn cael ei hystyried ar 16 Mawrth.

P-05-1063 Dylid agor cyrsiau golff gan eu bod yn chwarae rôl hanfodol o ran

gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol

6,317

Rhagfyr 2020

Dau achlysur

Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn fel rhan o ddadl ar fynediad at chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn ystod cyfyngiadau symud.

 

Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau gan y deisebydd. Ni chafwyd dim.

P-05-1072 Ymchwilio i’r pwerau sydd gan Senedd Cymru mewn perthynas â gwahardd therapi newid cyfeiriadedd rhywiol.

144

Rhagfyr 2020

Dau achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau gan y deisebydd. Ni chafwyd dim.

P-05-1082 Gadewch i gorau ymarfer dan do os ydyn nhw'n cynhyrchu asesiad risg llawn i atal haint C-19

498

Ionawr 2021

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau gan y deisebydd. Ni chafwyd dim.

P-05-1084 Dysgwch blant Cymru am sut y gwnaeth Cymru wladychu Patagonia

103

Ionawr 2021

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau gan y deisebydd. Ni chafwyd dim.

 

Mae'r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) bellach wedi'i basio gan y Senedd.

 

(Deiseb wedi'i grwpio gyda P-05-1098)

P-05-1085 Gwneud hyfforddiant gwrth-hiliaeth yn orfodol i bob Cynghorydd etholedig ac Aelod o'r Senedd yng Nghymru”

142

Chwefror 2021

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau gan y deisebydd. Ni chafwyd dim.

P-05-1087 Rhowch derfyn ar ynysu torfol gan blant ysgol iach!

1,177

Ionawr 2021

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau gan y deisebydd. Ni chafwyd dim.

P-05-1091 Dileu Bagloriaeth Cymru orfodol i fyfyrwyr sydd am fynd i'r Brifysgol

63

Ionawr 2021

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau gan y deisebydd. Ni chafwyd dim.

P-05-1096 Dileu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o’r elfen orfodol o Fil Cwricwlwm 2020

5,307

Ionawr 2021

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i gadw golwg ar y mater yn sgil gwaith craffu parhaus ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

 

Mae'r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) bellach wedi'i basio gan y Senedd. Ni chytunwyd ar welliannau i ddileu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o agweddau gorfodol y Cwricwlwm.

P-05-1098 Dylai rôl Cymru yn hanes trefedigaethol Prydain fod yn bwnc gorfodol mewn ysgolion.

50

Ionawr 2021

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau gan y deisebydd. Ni chafwyd dim.

 

Mae'r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) bellach wedi'i basio gan y Senedd.

 

(Deiseb wedi'i grwpio gyda P-05-1084)

P-05-1101 Caniatáu i gefnogwyr fynychu digwyddiadau chwaraeon yng Nghymru

 

105

Ionawr 2021

Un achlysur

Mae’r pwyllgor yn cadw golwg ar y sefyllfa oherwydd newid yn y rheolau presennol ledled y DU o ganlyniad i adfywiad y pandemig. Newidiodd yr amgylchiadau oherwydd symud i Rybudd Lefel 4.

 

(Deiseb wedi'i grwpio gyda P-05-1027)

P-05-1102 Caniatáu o leiaf un rhiant neu warcheidwad i wylio gemau pêl-droed sydd wedi'u trefnu i blant

52

Ionawr 2021

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau gan y deisebydd. Ni chafwyd dim.

P-05-1111 Rhowch y £7 miliwn yn ôl yn y gronfa Trawsnewid Iechyd Meddwl

255

Mawrth 2021

Un achlysur

Cytunodd y Pwyllgor i aros am sylwadau gan y deisebydd, gyda'r bwriad o gau'r ddeiseb ar 16 Mawrth pe na bai dim yn dod i law.

P-05-1115 Atal fferm solar anferth fydd yn dinistrio dolydd hynafol ger y Fenni

258

Chwefror 2021

Un achlysur

Cytunodd y pwyllgor i gadw golwg ar y ddeiseb tan ddiwedd tymor y Senedd. Mae gan y datblygwr tan fis Ionawr 2022 i gyflwyno cais a fydd yn cael ei ystyried yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol. Nid oes llawer y gallai pwyllgor ei wneud ochr yn ochr â hyn.

P-05-1137 Galwad ar i Lywodraeth Cymru roi cyllid teg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru

14,338

Chwefror 2021

Un achlysur

Cyhoeddodd y Llywodraeth gyllid ychwanegol ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Darparwyd sylwadau pellach y deisebydd i'r Llywodraeth eu hystyried.